Ysgol Gynradd Gymraeg Bryniago :
Athro/Athrawes gyda Chyfrifoldeb Arwain TLR 2A
(dyddiad cau: 05.10.2026, Canol dydd) MPS
Angen ar gyfer Ionawr 2027
Mae Llywodraethwyr Ysgol Bryniago yn dymuno penodi athro/athrawes ragorol, uchelgeisiol ac ymroddedig i ymuno â'n tîm. Bydd deiliad y swydd yn athro/athrawes dosbarth effeithiol ac yn aelod gweithredol o'r Uwch Dîm Rheoli, gan gyfrannu at gyfeiriad strategol a gwelliant parhaus yr ysgol.
Bydd deiliad y swydd yn derbyn lwfans TLR 2A am ei gyfrifoldeb i arwain llythrennedd ar draws yr ysgol ac am gyflawni rôl Is-GADY. Bydd yn gweithio'n agos gyda'r Pennaeth, y Dirprwy Bennaeth a'r CADY i sicrhau'r safonau uchaf o ran addysgu, dysgu, cynhwysiant a lles.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd:
- Yn athro/athrawes ragorol gyda disgwyliadau uchel o bob dysgwr.
- Yn meddu ar sgiliau arwain cryf a'r gallu i ddylanwadu'n gadarnhaol ar eraill.
- Yn angerddol am ddatblygu llythrennedd ac am wella deilliannau dysgwyr.
- Yn meddu ar wybodaeth gadarn am ddarpariaeth ADY a chynhwysiant.
- Yn gallu gweithio'n effeithiol fel aelod o'r Uwch Dîm Rheoli.
- Yn gyfathrebwr effeithiol ac yn adeiladu perthnasoedd cadarnhaol gyda staff, disgyblion, rhieni a rhanddeiliaid.
- Yn ymrwymedig i ddatblygiad proffesiynol parhaus.
- Yn meddu ar Gymraeg llafar ac ysgrifenedig o safon uchel.
Prif Gyfrifoldebau'r SwyddFel Athro/Athrawes Dosbarth
- Cynllunio a darparu addysgu a dysgu o safon uchel.
- Creu amgylchedd dysgu cynhwysol, ysgogol a chefnogol.
- Sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei herio a'i gefnogi i gyrraedd ei lawn botensial.
- Monitro cynnydd dysgwyr a defnyddio data yn effeithiol i lywio gwelliant.
Fel Arweinydd Llythrennedd
- Arwain a datblygu llythrennedd ar draws yr ysgol gyfan.
- Arwain a datblygu Maes Dysgu a Phrofiad Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu ar draws yr Ysgol gyfan
- Monitro safonau llythrennedd a dadansoddi effaith darpariaeth.
- Arwain hunanwerthuso a chynllunio gwelliant yn y maes.
- Cefnogi a datblygu arferion addysgu effeithiol ymysg cydweithwyr.
- Adrodd yn rheolaidd ar gynnydd a blaenoriaethau datblygu i'r Uwch Dîm Rheoli a'r Llywodraethwyr.
Fel Is-GADY
- Cefnogi'r CADY gyda chynllunio, monitro a chydlynu darpariaeth ADY.
- Cyfrannu at adolygu a monitro cynnydd dysgwyr ag ADY.
- Cefnogi staff wrth weithredu arferion cynhwysol effeithiol.
- Helpu i sicrhau bod anghenion pob dysgwr yn cael eu diwallu'n llwyddiannus.
Fel Aelod o'r Uwch Dîm Rheoli
- Cyfrannu'n weithredol at gyfeiriad strategol yr ysgol.
- Cymryd rhan mewn penderfyniadau strategol a gweithredol.
- Arwain ar flaenoriaethau gwella ysgol gyfan.
- Cyfrannu at brosesau monitro, gwerthuso a hunanwerthuso.
- Cefnogi'r Pennaeth a'r Dirprwy Bennaeth wrth weithredu gweledigaeth ac amcanion yr ysgol.
YR HYN RYDYM YN EI GYNNIG:
• Cymuned weithgar a hapus, sy'n cynnig amgylchedd gofalgar, diogel a chroesawgar
• Diwylliant cadarnhaol sy'n meithrin egwyddorion arwyddair yr ysgol yn dda, sef 'Dim ond ein gorau glas sy'n ddigon da
• Plant brwdfrydig, staff gweithgar a llywodraethwyr cefnogol
• Cwricwlwm perthnasol sy'n cwmpasu'r meysydd dysgu a phrofiad sy'n herio ac ysbrydoli dysgwyr i gyrraedd safonau da
• Tîm o staff sydd yn rhoi pwyslais cryf ar les corfforol ac emosiynol disgyblion a sy'n dathlu gwahaniaethau o fewn cymdeithas
• Cymorth pwrpasol o ansawdd uchel i ddisgyblion ag ADY
• Ymrwymiad i ddysgu proffesiynol parhaus ar bob lefel
Y Broses Ddethol
Bydd gofyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer:
- Ddangos eu haddysgu drwy arsylwad gwers.
- Cymryd rhan mewn tasg arweinyddiaeth.
- Mynychu cyfweliad ffurfiol.
Bydd disgwyl i ymgeiswyr ddangos eu gallu i arwain llythrennedd ar draws yr ysgol, cyflawni rôl Is-GADY a chyfrannu'n effeithiol fel aelod o'r Uwch Dîm Rheoli.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Hanner dydd 05.10.2026
Arsylwadau gwersi: w/d 12.10.2026
Cyfweliadau: 16.10.2026
Ffurflen gais - athrawon cynradd, uwchradd, arbennig (Word doc, 120 KB)
DISGRIFIAD SWYDD
Cyflwynwch eich llythyr cais a ffurflen gais wedi'i llenwi i swyddfa'r Ysgol, yn [email protected] at sylw'r pennaeth.
Bydd yr holl ymgeiswyr yn derbyn ymateb, i gadarnhau ein bod wedi derbyn y cais. Mae disgrifiad swydd manwl ar gael gyda'r ffurflen gais.
Mae ffurflenni cais a manylion pellach ar gael ar wefan Swyddi Addysgu Abertawe https://www.swansea.gov.uk/schooljobs
Mae'r swydd yn amodol ar Ddatgeliad Uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Yng Nghyngor Abertawe, mae egwyddor "Diogelu yw Busnes i Bawb," ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
Last modified on 07 September 2026
Is this page useful? No Report a problem with this page